Beth yw LIPD?
Datblygiad Proffesiynol Rhyngwladol i Ddarlithwyr – rhaglen a anelir at ddarlithwyr a rheolwyr Addysg Bellach yng Nghymru.
Trefnir y rhaglen, a ariennir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru, mewn partneriaeth â ColegauCymru a rhydd gyfle i ddarlithwyr Addysg Bellach yng Nghymru i ennill profiad o ymarfer addysgol da mewn gwahanol wledydd ar draws y byd.
Trwy drwytho cyfranogwyr mewn sustem addysg gwlad arall, mae LIPD yn cynnig profiad sy’n llawn her.
Trwy gyfrwng y rhaglen hon, anelir at gynyddu gallu proffesiynol yr aelod o staff yn ei ddewis faes a hybu’r gwaith o ddatblygu cysylltiadau rhwng colegau Cymreig a’u cymheiriaid rhyngwladol mewn meysydd sydd o ddiddordeb i’r naill a’r llall.
PWY SY’N GYMWYS?
Mae’r rhaglen wedi ei hanelu yn bennaf at ddarlithwyr a rheolwyr Addysg Bellach - mae'r amodau cymwys ar gael yn y llawlyfr. I gyfranogi, dylai fod gennych ddiddordeb gwirioneddol yn y dimensiwn rhyngwladol mewn darpariaeth addysgol ynghyd ag agwedd hyblyg tuag at weithio mewn sustemau ac arfer gwahanol.
Mwy o Gwestiynau?
Darllenwch y Cwestiynau a Holir yn Aml (LIPD) neu Lawlyfr LIPD am yr holl fanylion.
Sut i ymgeisio?
Pan fyddwch wedi cwblhau eich ffurflen gais (gallwch lawrlwytho hon o’r rhestr isod), e-bostiwch gopi meddal at lipd@britishcouncil.org ac anfonwch gopi caled atom ni yn:
LIPD
British Council Cymru
1 Kingsway
Ail Lawr
Caerdydd
CF10 3AQ
Dyddiad Cau
Dylai pob cais cael eu cyflwyni o leiaf chwech wythnos cyn i’r dyddiad teithio. Caiff ymgeiswyr eu hysbysu o'r canlyniad o fewn mis i'r terfyn amser, yn dilyn cyfarfod y panel dyfarnu.
C y sylltwch â ni
Os oes gennych ymholiad ynglŷn â rhaglen LIPD, ffoniwch +44 (0)29 2092 4300 neu anfonwch e-bost at lipd@britishcouncil.org
Dogfennau a Adnoddau
Cliciwch ar y teitl i’w ddadlwytho
Open the original version of this page.
Usablenet Assistive is a UsableNet product. Usablenet Assistive Main Page.